Cefndir
1. Pwy ydy Petha?
Mae Petha yn brosiect peilot sy’n cael ei arwain gan Dolan, rhwydwaith o fentrau cymunedol, gyda Partneriaeth Ogwen yn cartrefu’r prosiect fel prif bartner.
Mae Cyngor Gwynedd yn bartner yn y prosiect, ac mi fydd Llyfrgelloedd Gwynedd yn ddrws ffrynt i gael mynediad at eitemau Petha. Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r prosiect yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Gwynedd i’r Gronfa Economi Gylchol.
Mae Petha hefyd yn rhan o rwydwaith Benthyg Cymru, sydd yn datblygu Llyfrgelloedd Pethau ar draws Cymru.
2. Pam Petha?
Nod Petha ydy treialu’r buddion o ddatblygu Llyfrgell Pethau yng Ngwynedd. Yn syml iawn, mae Llyfrgelloedd Petha yn debyg i Lyfrgell draddodiadol, ond yn lle benthyg llyfrau, gellir benthyg pethau.
Mae’r math o bethau sy’n cael eu benthyg yn gallu cynnwys, twlsl, offer garddio, teganau, offer campio, offer crefft neu goginio a llawer iawn mwy. Y syniad ydi darparu eitemau sydd ddim yn cael lot o ddefnydd yn gymunedol, gan roi mynediad i drigolion drwy eu benthyg yn hytrach na’u prynu, sydd yn arbed arian, arbed lle yn ein cartrefi, ac yn llawer gwell i’r amgylchedd.
3. Be mae Petha eisiau ei gyflawni?
Nod Petha ydy sefydlu Llyfrgelloedd y Petha ar draws 3 cymuned yng Ngwynedd (Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog). Prif amcanion y prosiect yw:
- Lleihau pobl yn prynu pethau yn ddi-angen a hyrwyddo diwylliant o gyd-berchnogi, benthyg a rhannu nwyddau ar lefel gymunedol.
- Hyrwyddo meddylfryd yr economi gylchol gan arwain at leihau gwastraff a chadw deunyddiau ac offer mewn defnydd cyn hired a phosib.
- Creu cyfleon mentro yn seiliedig ar ar egwyddorion yr economi sylfaenol, gan ddarparu offer a nwyddau ar log.
- Lleihau anghydraddoldeb drwy ddarparu mynediad i nwyddau mewn dull fforddiadwy a chynaliadwy i bawb.
- Cyfrannu at lesiant cymunedol drwy greu a chefnogi cyfleoedd i ddod ynghyd.
- Datblygu cyfleon addysgu yn seiliedig ar amcanion y prosiect, neu amcanion ehangach perthnasol megis newid hinsawdd, annog mentergarwch a chreadigolrwydd neu atal gwastraff.
Aelodaeth
4. Pwy all fod yn aelod?
Gall unrhyw un dros 18, sydd yn byw yng Ngwynedd, fod yn aelod.
5. Sut mae ymaelodi?
Gellir ymaelodi ar lein, drwy ymweld â petha.cymru a chlicio Catalog, yna Creu Cyfri. Ar ôl creu cyfrif ar lein, gellir archebu eitemau i’w casglu o un o’r 3 llyfrgell Petha (Bethesda, Blaenau Ffestiniog neu Penygroes). Y tro cyntaf byddwch chi’n casglu eitem bydd rhaid dod â rhyw fath o dystiolaeth adnabod sydd yn dangos cyfeiriad gyda chi ac mi fydd angen llenwi ffurflen aelodaeth ar bapur.
6. Oes cost i ymaelodi?
Na, mae aelodaeth am ddim ond bydd rhaid talu i fenthyg rhai eitemau. Mae hyn i gynorthwyo gyda chost prynu yr eitem, cynorthwyo i dalu am gostau’r prosiect, neu i dalu am gost eitemau adnewyddol (consumables) sydd yn dod gyda’r pecyn.
7. Oes rhaid i mi fyw o fewn y 3 cymuned lle lleolir Llyfrgelloedd Petha i gael bod yn aelod?
Na, mae aelodaeth yn agored i bawb yng Ngwynedd, ond fe fydd rhaid teithio i un o’r lleoliadau presennol (Bethesda, Blaenau Ffestiniog neu Penygroes) i gasglu a dychwelyd eitemau.
Archebu eitem
8. Sut dwi’n archebu eitem?
Defnyddiwch y catalog ar lein i edrych ar yr hyn sydd ar gael gan Petha. Gellir pori’r catalog, neu hidlo yn ôl lleoliad, neu math o eitem, neu drwy ddefnyddio’r blwch chwilio i edrych am eitem benodol.
Os yn gweld eitem yr hoffech ei fenthyg, bydd y disgrifiad yn rhoi syniad i chi o gost benthyg, ei leoliad, ac unrhyw wybodaeth sy’n hanfodol i’r eitem, megis canllawiau defnydd. Gallwch archebu’r eitem drwy ddewis dyddiad yn y calendr a dilyn y broses yn y catalog tan eich bod wedi cyflwyno archeb.
Bydd ebost yn cael ei yrru i chi i gadarnhau eich archeb pan yn gyflawn.
Os oes ffi i’w dalu - ni fydd hwn yn cael ei gymryd nes fod yr eitem yn cael ei gasglu.
9. Oes cost i fenthyg drwy Petha?
Er ein bod yn ceisio cadw benthyciadau mor fforddiadwy â phosib, mae’n debygol y bydd ffi er mwyn benthyg sawl eitem yn y catalog, ag eithro teganau, sydd am ddim.
Mae hyn oherwydd y gost o brynu eitemau, cost i redeg y system, costau yswyriant, staffio a chostau i gynnal a chadw’r eitemau. Gyda rhai eitemau, mae hefyd angen cynnyrch sydd angen ei adnewyddu bod tro (‘consumables’) ac mi fydd Petha angen codi ffi am rhain. Bydd hyn yn cael ei egluro gyda disgrifiad pob eitem.
10. Oes ffordd arall i dalu, hy. Ddim yn ariannol?
Rydym yn awyddus fod y llyfrgell Petha mor hygyrch â phosib i bawb - adnodd i’r gymuned ydy o, nid yn un unig i’r rhai sydd yn gallu talu.
Rydym yn ceisio cadw’r costau cyn ised â phosib, ac os yw’r costau yn anodd i unrhyw un, byddwn yn eu hannog i gysylltu gyda Petha i wneud trefniadau amgen.
Rydym yn edrych i mewn i drefniadau eraill hefyd, megis talu gyda credydau amser, system ‘taleb anrheg’ neu dderbyn cyfeiriadau gan gyrff. Byddwn yn eich diweddaru o unrhyw newid o’r fath drwy’n ffrydiau cymdeithasol [(@pethagwynedd) neu drwy’n newyddlen [hyperlink mailchimp]
Casglu eitem
11. O lle dwi’n casglu eitemau dwi wedi eu harchebu?
Maer Petha yn cael ei weithredu o’r llyfrgelloedd cyhoeddus o fewn y tair cymuned sydd yn rhan o’r cynllun hyd yn hyn: Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Phenygroes. Mi fydd disgrifiad yr eitem yn nodi ei leoliad ac amseroedd agor y lleoliadau. Mae’n rhaid casglu a dychwelyd yr eitemau i’r lleoliad lle cawsant eu casglu, yn ystod oriau agor.
12. Alla i archebu eitem o leoliad arall h.y., archebu eitem sydd wedi ei leoli ym Mhenygroes a’i gasglu o Fethesda?
Ar y funud, ni fydd eitemau yn symyd o un lleoliad i’r llall, bydd rhaid i chi eu casglu o’r lleoliad sydd wedi ei nodi yn y catalog. Ond, rydym yn gweithio ar drefn lle bydd modd gwneud cais am eitemau i leoliadau gwahanol. Byddwn yn rheadru newyddion am ddatblygiadau o’r fath ar y cyfryngau cymdeithasol @pethagwynedd neu drwy’n newyddlen (gellir tanysgrifio yma) [rhoi hyperlink Mailchimp yma - rhowch wybod be da chi angen gen i i gysylltu’r cyfri].
13. Be dwi angen dod gyda mi?
Y tro cyntaf rydych chi’n casglu, rhaid dod â tystiolaeth adnabod, sydd yn dangos cyfeiriad, gyda chi. Bydd hefyd gofyn i chi lenwi ffurflen aelodaeth ar bapur ar eich ymweliad cyntaf. Ar ôl y tro cyntaf, ni fydd angen darparu’r dystiolaeth yma.
14. Pam fod angen i mi gytuno i’r ‘liability waiver’?
Mae’n bwysig fod pawb sydd yn benthyg eitem yn ymwybodol mai eu cyfrifoldeb nhw ydy defnyddio’r eitem mewn ffordd sydd yn gyfrifol ac yn saff. Dyna pam mae gofyn i chi gytuno i hynny bob tro rydych chi’n benthyg eitem all fod a risg iddo.
Mae Petha yn darparu canllaw defnydd fel rhan o restriad catalog eitemau sydd angen gofal wrth eu defnyddio, ac mi fydd copi wedi ei lamineiddio yn cael ei ddarparu hefo’r benthyciad hefyd. Mae’n bwysig eich bod yn darllen rhain ac yn dilyn y canllawiau.
15. Sut dwi’n talu?
Os oes cost i’r eitem, bydd angen talu ffi pan yn ei gasglu. Gellir gwneud hyn ddwy ffordd:
Arian parod: Gellir talu staff y Llyfrgell mewn arian parod.
Cerdyn: Mae’r catalog yn defnyddio’r system dalu ‘Stripe’ i godi tal arnoch. Bydd y tal yn cael ei godi pan rydych chi’n casglu’r eitem. Pwysig: I dalu gyda cerdyn mi fydd rhaid unai cofrestru’r cerdyn ar y system gatalog o flaen llaw, neu ddefnyddio un o gyfrifiaduron y llyfrgell i gofrestru’r cerdyn. Ni all staff y Llyfrgell weinyddu taliad cerdyn.
16. Beth os yw’r eitem yn fawr/trwm?
Er ein bod yn trio sicrhau fod yr eitemau yr ydym yn eu cynnig yn hawdd i’w cludo mewn car, mae’n anorfod fod rhai eitemau yn fawr neu drwm ac o bosib angen mwy nag un person i’w symyd yn saff. Ni all staff y Llyfrgell eich helpu i gario’r eitemau yma i’r car.
Bydd rhestriad y catalog yn dangos os ydy’r eitem yn un mawr gyda argymhelliad fod angen dau berson i’w symud. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau fod adnodd digonol gyda chi i symud yr eitemau yma.
17. Beth os oes problem gyda’r eitem, ei fod ddim yn gweithio neu ddim yn gyflawn?
Peilot ydy hwn sydd yn cael ei redeg gan fenter gymunedol, ac rydym yn trio’n gorau i sicrhau fod pob eitem sydd ar gael yn addas i’w ddefnyddio, ond os oes unrhyw broblemau yn codi gyda’r eitem, rydym yn ymddiheuro’n fawr.
Os oes unrhyw broblem, cysylltwch a post@petha.cymru [cawn gadarnhau os bydd yr ebost yma’n weithredol] neu ffoniwch [angen cadarnhau rhif ffon y prosiect] ac fe wnawn ein gorau i ddatrys y broblem. Bydd y ffon/ebost yma yn cael eu monitro yn ystod oriau swyddfa ond nid ar benwythnosau/gyda’r nos.
18. Allai adnewyddu eitem?
Mae’n bosib adnewyddu’r rhan fwyaf o eitemau yng nghatalog Petha (ond nid pob un). I wneud cais i adnewyddu, bydd angen cysylltu a’ch llyfrgell Petha leol neu gysylltu â swyddog Petha ar [rhif ffon i’w gadarnhau] neu ebostio post@petha.cymru [i’w gadarnhau]
Rydym yn gobeithio gallu galluogi hunan-adnewyddu yn fuan. Byddwn yn rheadru’r wybodaeth yma drwy’r cyfryngau cymdeithasol @pethagwynedd neu drwy’n newyddlen (gallwch danysgrifio yma) [angen linc mailchimp]
Fe fydd ffi adnewyddu yn cyfateb i ffi benthyg hy, os ydy’r eitem yn £2.50 yr wythnos, bydd wythnos ychwanegol yn costio £2.50.
19. Sut ydw i yn gwybod fod yr eitem yn saff ac yn addas i’w ddefnyddio?
Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod pob eitem yn saff, yn gyflawn, ac yn barod i’w ddefnyddio. Fel rhan o’n prosesau mae’r gwiriadau canlynol yn cael eu gwneud ar eitemau:
- Bydd staff y Llyfrgell yn gwiro os ydy eitemau yn gyflawn, yn gweithio ac yn rhydd o unrhyw niwed gweledol gyda defnyddwyr bob tro bydd eitem yn cael ei ddychwelyd.
- Gwiriad gweledol gan staff y Llyfrgell a’r defnyddiwr cyn ac ar ôl bob benthyciad.
- Os oes unrhyw eitem yn dangos niwed, neu yn cael ei adrodd fel bod problem, bydd yn cael ei dynnu allan o’r catalog yn syth tan ei fod wedi ei wiro gan arbenigwr.
- Bydd eitemau trydan yn derbyn PAT test bob 6 mis, gyda eitemau sydd yn cyfuno dwr a thrydan (megis golchydd pwysedd neu beiriant glanhau carpedi) yn cael eu PAT testio rhwng bob benthyciad.
- Bydd eitemau arbennigol yn cael eu archwilio gan berson cymwysiedig yn flynyddol.
Mae’n bwysig nad ydych yn defnyddio eitemau sydd efo unrhyw arwydd o niwed, a’ch bod yn adrodd ar y niwed yma i ni cyn gynted ậ phosib.
Dychwelyd eitem
20. Sut ydw i yn dychwelyd eitem?
Rhaid dychwelyd bob eitem i’r lleoliad lle gasglwyd yn ystod oriau agor, ac o fewn y cyfnod benthyg. Dylech dderbyn ebost yn eich atgoffa ei fod yn amser dychwelyd yr eitem.
Rydym yn gofyn yn garedig i chi wneud eich gorau i ddychwelyd eitemau i Petha yn amserol. Mae’n bosib y bydd rhywun arall wedi gwneud cais am yr eitem ar eich ôl chi felly er tegwch iddyn nhw, os gwelwch yn dda ceisiwch fod yn brydlon.
21. Beth os ydw i’n hwyr?
Yn gyntaf, plis peidiwch bod ofn dod â’r eitem yn ôl os ydy o’n hwyr. Dod ag eitemau yn ôl ydy’r peth pwysig, a fyddwn ni ddim yn flin.
Ond os ydy’ch benthyciad yn rhedeg i mewn i wythnos newydd fe fydd ffi am fenthyciad newydd yn cael ei godi. Os ydy hyn yn peri problem i chi, os gwelwch yn dda, siaradwch gyda staff y Llyfrgell; Nid ydym eisiau atal unrhyw un rhag dychwelyd eitemau oherwydd pryderon am gostau, byddai’n llawer gwell gennym gael yr eitemau yn ôl!
22. Mae’r eitem wedi ei dorri tra ei fod yn fy meddiant. Be dwi’n wneud?
Yn gyntaf, peidiwch â phoeni. Rydym yn gofyn i chi fod mor ofalus â phosib gyda’r eitemau, ond rydym hefyd yn dallt fod y pethau ma yn gallu digwydd.
Bydd yn fuddiol i ni wybod be sydd wedi digwydd er mwyn i ni fynd ati i atgyweirio’r eitem, felly plis peidwch bod ofn siarad hefo ni.
Gan ein bod eisiau i Petha fod mor hygyrch â phosib i bawb, nid ydym yn codi ffi am eitem sydd wedi ei ddifrodi ar y funud. Mae’n bosib y bydd y sefyllla yma yn gorfod newid i’r dyfodol. Byddwn yn eich hysbysebu o unrhyw newidiadau yn yr amodau hyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol @pethagwynedd, drwy neges i holl aelodau, neu drwy ein newyddlen, tanysgrifiwch yma {angen link mailchimp].
Cyfrannu eitem
23. Ydych chi yn derbyn rhoddion i Petha?
Ydyn! Cychwyn ar y siwrne ydan ni hefo Petha, a rydym ni’n gobeithio adeiladu catalog sydd yn cynnwys bob math o eitemau sydd wedi cael eu rhoi gan drigolion. Rydym y’n fodlon derbyn unrhyw eitemau all fod yn fuddiol i eraill, boed yn dwls, offer gwersylla, nwyddau i gynnal parti, nwyddau crefft, teganau ayyb.
Yr unig beth rydym yn ei ofyn ydy fod yr eitemau mewn cyflwr da ac yn addas i’w defnyddio.
I gyfrannu eitem, dewch ag o i’ch llyfrgell Petha leol (Bethesda, Blaenau Ffestiniog neu Penygroes) yn ystod oriau agor. Bydd staff y Llyfrgell yn gofyn i chi lenwi ffurflen sydyn, ac mi fydd yr eitem yn cael ei dderbyn. Byddwn wedyn yn gwiro’r eitemau, a’u profi i wneud yn siwr eu bod yn saff, cyn eu cynnig ar gael i eraill yn eich cymuned eu defnyddio.
Beth am arbed lle yn eich cartref drwy gyfrannu eitemau rydych chi ond yn eu defnyddio’n achlysurol i gael eu defnyddio gan eich cymdogion?!
24. Fyddwch chi’n codi ffi am eitemau sy’n cael eu cyfrannu?
Mae nifer o gostau i redeg llyfrgell Petha. Costau yswiriant, catalog, cynnal a chadw eitemau, staffio ayyb. Oherwydd y costau hyn, mae’n debygol y bydd ffi yn cael ei godi am ran helaeth o eitemau’r catalog, boed yn rhodd neu wedi eu prynu, gan fod hyn yn angenrheidiol i barhau a’r gwasanaeth.
Ond rydym yn ceisio sicrhau fod y ffioedd mor isel â phosib, fel fod Petha yn hygyrch i bawb. Rydym hefyd yn edrych mewn i dderbyn taliadau drwy wirfoddoli amser, neu drwy dderbyn cyferiadau gan gyrff eraill. Byddwn yn eich diweddaru o newidiadau fel hyn drwy ein ffrydiau gwefannau cymdeithasol @pethagwynedd, neu drwy ein newyddlen.[link i mailchimp]
