LLYFRGELL PETHA

Mae Petha yn brosiect i dreialu llyfrgelloedd pethau yng Ngwynedd. Y gobaith yw datblygu tair Llyfrgell Petha mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ym Methesda, Blaenau Ffestiniog a Penygroes.

Mae Llyfrgelloedd Pethau yr un peth ậ llyfrgell draddodiadol, ond yn hytrach na benthyg llyfrau, gall rhywun fenthyg pethau! Mae gennym ystod eang o eitemau ar gael i’w benthyg yn Petha, sy’n amrywio o dwls i offer garddio, teganau, offer campio, crefftio neu goginio, i beiriannau glanhau, offer digwyddiadau a hyd yn oed gwisgoedd ysgol! Drwy fenthyg yn hytrach na phrynu, gellir arbed arian, arbed lle yn ein cartrefi, ac arbed ein effaith ar y blaned!

I ddysgu mwy am Petha, cymrwch olwg ar ein FAQ’s. Neu beth am bori’r catalog i weld be sydd ar gael yn eich ardal chi. Ac yn olaf - mae aelodaeth am ddim, felly beth am fynd amdani! Dewch i fod yn rhan o siwrne Petha, a’n gobaith i annog chwyldro benthyg yn lleol.

Catalog

Rhwydweithiau Cymdeithasol

FacebookInstagramTwitter

 

Partneriaid

Mae Petha yn brosiect sydd yn cael ei arwain gan Dolan, rhwydwaith o fentrau cymunedol, gyda Cyngor Gwynedd a Benthyg Cymru yn bartneriaid allweddol. Ariennir Petha gan gronfa economi gylchol Llywodraeth Cymru.

[logos partneriaid ar draws y gwaelod yn cynnwys: Dolan, Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, Y Dref Werdd, Yr Orsaf, Cyngor Gwynedd, Benthyg Cymru, Llywodraeth Cymru]

 

Newyddlen Petha

Bydda’n fuddiol cael rhyw fath o ddolen i danysgrifio i newyddlen Petha (link Mailchimp]